- Trosolwg
- Diogelwch
- Amgylchedd
- Buddion
- Digwyddiadau'r Prosiect
Digwyddiadau'r Prosiect
Dechreuodd gwaith adeiladu’r Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin yn 2009 a disgwylir iddo orffen yn 2012. Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn y broses gaffael gyhoeddus.
Manylion peirianyddol a thechnegol
Mae’r Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin yn cynnwys 2 gebl tanfor â diamedr o 150 o filimetrau. Mae’r rhain yn gweithredu o dan Gerrynt Union Foltedd Uchel (HVDC) ac mae ganddynt gyd-gynhwysed o 500 MegaWatt (MW).
Rhai ystadegau eraill am y ceblau:
- Hyd y cebl tanfor: oddeutu 185 KM / 80 o filltiroedd.
- Hyd y cebl trostir yn Iwerddon: oddeutu 45 KM / 8 milltir.
- Hyd y cebl trostir yng Nghymru: oddeutu 29KM / 11 milltir.
Mannau cysylltu
Mae’r ceblau’n cael eu gosod ar wely’r môr er mwyn cysylltu Prydain ag Iwerddon rhwng y mannau canlynol:
- Rush Bay, Co. Dublin yn Iwerddon
- Gogledd Cymru ym Mhrydain.
Ar y tir mae’r ceblau’n cael eu gosod mewn ffosydd a dorrwyd yn arbennig. Mae’r ffosydd hyn yn cysylltu’r ceblau â’r gorsafoedd trawsyrru y mae eu hangen i gwblhau’r cysylltiad â’r gridiau trydan cenedlaethol. Mae’r gorsafoedd hyn yn:
- Woodside, Co. Meath, Iwerddon
- Glannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru, Prydain.
Cydgysylltyddion sy’n bodoli eisoes
Eisoes mae un cydgysylltydd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain. Mae’n cysylltu Gogledd Iwerddon â’r Alban (Cydgysylltydd Moyle).
Mae hefyd Cydgysylltydd rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Y Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin hwn fydd y cydgysylltydd cyntaf rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain.
Trwyddedau a chyllid
Mae’r prosiect hwn wedi’i drwyddedu gan y rheoleiddwyr ynni yn Iwerddon ac yn y DU:
- Commission for Energy Regulation (Iwerddon)
- OFGEM (DU).
Nid yw’r gyllideb ar gyfer y prosiect hwn wedi cael ei gyhoeddi eto. Ar hyn o bryd mae cystadleuaeth ariannu’n cael ei chynnal i ganfod noddwyr ariannol.

